#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Gorffennaf 2019
 Petitions Committee | 9 July 2019
 
 
 ,Deiseb P-05-885: Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru 

 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-885

Teitl y ddeiseb: Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru.

Testun y Ddeiseb: Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymgynghori â phobl ag anableddau dysgu cyn gwneud unrhyw newidiadau i wasanaethau bysiau/llwybrau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i safleoedd bysiau.

Rydym hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau. Mae'r mesurau hyn yn hanfodol os ydym am i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru beidio â chael eu hynysu yn y gymdeithas, ac os ydym am eu galluogi i fyw fel dinasyddion gweithgar a chydradd a chanddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, fel y'u hyrwyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Nid oedd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y ddeiseb hon wedi dod i law ar adeg llunio’r papur briffio hwn.

Cefndir

Rhwymedigaethau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Gyhoeddus

O dan delerau Deddf Cymru 2017, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth ar gyfer mynediad pobl anabl i drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, mae darpariaethau deddfwriaethol ehangach a pholisi Llywodraeth Cymru yn sefydlu ystod o ddyletswyddau.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd), yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol i sicrhau eu bod yn arfer eu swyddogaethau gan roi sylw priodol i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (‘Deddf 2010’) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu wrth arfer eu swyddogaethau, ac i hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanion ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynhwysol ym mis Rhagfyr 2017.  Maent yn nodi: 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth i bobl anabl mewn perthynas â thacsis, cerbydau gwasanaethau cyhoeddus a threnau. Er y bydd y materion hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU dan delerau’r setliad datganoli newydd i Gymru a nodir yn Neddf Cymru 2017, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus gan gyflawni ein rhwymedigaethau statudol a moesol statudol ehangach tuag at bobl Cymru.

Mae’r ddogfen yn mynd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ‘yn cydnabod bod angen i ni fabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig wrth i ni geisio gwella’r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru’. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ‘ymlynu wrth’ Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Darparu gwasanaethau a seilwaith bysiau

Nid yw awdurdodau lleol yn gyfrifol am newidiadau i’r rhan fwyaf o wasanaethau bws ar hyn o bryd.  O dan y fframwaith statudol presennol, sy’n sefydlu marchnad bysiau dadreoleiddio ym Mhrydain y tu allan i Lundain, mae mwyafrif sylweddol o wasanaethau bws yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno'n fasnachol gan gwmnïau bysiau.  

Mae rhan IV o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, a gyflwynodd ddadreoleiddio, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau’r drafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr y mae’n ei ystyried yn briodol i fodloni gofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddent yn cael eu bodloni fel arall (h.y. gwasanaethau â chymhorthdal yn absenoldeb gwasanaethau masnachol).  Fodd bynnag, gall awdurdodau lleol fel arfer ond rhoi cymhorthdal i wasanaethau lle nad ydynt yn cael eu darparu gan y farchnad.  Os yw gwasanaeth masnachol ar waith, mae gallu awdurdodau lleol i gaffael gwasanaethau â chymhorthdal yn gyfyngedig.

Gall gweithredwyr bysiau gofrestru a dadgofrestru gwasanaethau bws gyda’r Comisiynydd Traffig, fel arfer gyda rhybudd o 56 diwrnod. Mae dogfen amcanion trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynhwysol Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir:

Mae tua thri chwarter y llwybrau a weithredir wedi’u cofrestru gan gwmnïau bysiau ar sail fasnachol, tra bo’r gwasanaethau bysiau lleol sy’n weddill yn cael eu contractio gan awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau na fyddent yn cael eu darparu fel arall.

Fodd bynnag, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol ar y cyfan am ddarparu seilwaith bysiau – gan gynnwys safleoedd a gorsafoedd bysiau.

Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach Cymru Gyfan

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun tocynnau teithio rhatach cyntaf y DU yn 2002.  Mae canllawiau ar gyfer y cynllun teithio rhatach ar fysiau Llywodraeth Cymru yn egluro bod pobl ag ‘anableddau dysgu’ yn gymwys i gael cerdyn. Mae gan ‘gymdeithion’ hawl hefyd i gael cerdyn pan:

…fod angen y cymorth ychwanegol [ar ddeiliad y cerdyn] y mae'n rhaid i gydymaith ei ddarparu i'w alluogi i deithio ar fws, y tu hwnt i'r cyfrifoldebau cyffredin a ddisgwylir gan unigolyn sy’n ei hebrwng.

Mae’r ddeiseb yn ‘galw ar i Lywodraeth Cymru ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau’.  Gellir defnyddio tocynnau rhatach ar hyn o bryd ar wasanaethau TfWRail ar rai llwybrau, mewn rhai achosion mae hyn yn gyfyngedig i amserau penodol o’r flwyddyn.  Gellir defnyddio tocynnau ar y llwybrau canlynol:

§    Wrecsam – Pont Penarlâg;

§    Machynlleth – Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth  yn unig;

§    Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy); a

§    Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – rhwng mis Hydref a mis Mawrth yn unig.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o wasanaethau anabledd dysgu – Anabledd Dysgu: Rhaglen Gwella Bywydau. Mae’n nodi ar dudalen 4 (ychwanegwyd y pwyslais):

Cafodd heriau eu nodi hefyd a fydd yn arwain at gryfhau gwasanaethau. Roedd y rhain yn ymwneud yn benodol â:

-      Bod â’r wybodaeth/data sydd eu hangen er mwyn gallu cynllunio gwasanaethau yn fanwl ac yn briodol, ac felly diwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu.  Mae hyn hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr y cyflwynir gwybodaeth ar ffurf hawdd ei ddeall a bod yr ieithwedd a ddefnyddir yn adlewyrchu dewis y rhanddeiliaid;

-      Sicrhau y gwrandewir ar leisiau pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr ac y gweithredir fel bo’r angen ar draws gwasanaethau cyhoeddus;

-      Sicrhau pan osodir safonau mewn gwasanaethau a phan gaiff y canlyniadau eu monitro a’u gwerthuso, y bydd anghenion pobl ag anabledd dysgu yn cael eu hystyried;

-      Cryfhau gwasanaethau trafnidiaeth a’u llunio i ddiwallu anghenion pobl ag anabledd dysgu pryd bynnag y bo hynny’n bosibl.”

Mae tudalen 21 yn cynnwys tabl gyda rhestr o argymhellion sy’n cysylltu â'r uchod, gan gynnwys:

Cludiant – sicrhau y gweithredir drwy’r panel cludiant ar gyfer pobl sy’n agored i niwed i alluogi gwasanaethau hygyrch sy’n briodol i anghenion pobl ag anableddau dysgu.

Rhwng mis Hydref 2018 a mis Ionawr 2019, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad Gweithredu ar Anabledd: Hawl i fyw’n annibynnol. Mae tudalen 25 o’r ddogfen ymgynghori yn nodi:

Y mater a godwyd amlaf gan bobl anabl yn ystod y broses ymgysylltu oedd hygyrchedd ac argaeledd cludiant cyhoeddus.  Roedd hyn yn effeithio ar allu pobl anabl i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn annibynnol ond gallai hyfforddiant teithio fod o gymorth yn hyn o beth, pan fo trafnidiaeth ar gael o leiaf.  Dywedasant fod methu â mynd o gwmpas yn y gymuned leol ac ymhellach i ffwrdd yn cael effaith ar eu gallu i dderbyn gwaith, i gyrraedd apwyntiadau, i ddefnyddio gwasanaethau hamdden a chyhoeddus, neu hyd yn oed i gwrdd â theulu a ffrindiau. Mae prinder lle ar fysiau i nifer o bobl anabl deithio yr un pryd yn broblem, ynghyd â theithio ar y trên mewn cadair olwyn gan fod rhaid gwneud trefniadau ymlaen llaw i gael cymorth.

Mae Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol y Cynllun Gweithredu, sydd wedi’i atodi fel atodiad i’r ddogfen ymgynghori, yn nodi (Tudalen 12):

“Byddwn ni’n:

Gwneud cludiant cyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl anabl drwy’r dulliau a ganlyn:

……

Monitro hygyrchedd gwasanaethau bws lleol ar ôl cyflwyno’r safonau gwirfoddol ar gyfer ansawdd bysiau fel rhan o’r trefniadau monitro sy’n bodoli mewn cysylltiad â’r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau.

……

Gweithio gyda’n Panel Trafnidiaeth Hygyrch i ddatblygu amcanion sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda chamau gweithredu penodol sy’n cael eu cynllunio er mwyn gwella hygyrchedd a chynhwysiant ar draws y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Nghymru.

Fel y nodwyd uchod, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcanion ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a chynhwysol ym mis Rhagfyr 2017, sy’n cynnwys:

§    Amcan 1: ‘Mae pobl anabl yn gallu gwneud siwrneiau llwyddiannus o ddrws i ddrws ar alw ac ar y diwrnod teithio’;

§    Amcan 5: ‘Mae teithwyr yn chwarae mwy o ran yn y broses o ddylunio, datblygu a gwella gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth’;

§    Amcan 6: ‘Mae Trafnidiaeth Gyhoeddus yn dull trafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy’.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru safon wirfoddol ansawdd bysiau Cymru (ail argraffiad) ym mis Rhagfyr 2017. Mae’n rhaid i weithredwyr bysiau fodloni ‘gofynion craidd’ y safonau er mwyn hawlio cyllid gan Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru. Nid yw’r rhain yn cynnwys rhwymedigaethau i ymgysylltu â theithwyr wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau, er eu bod yn gofyn i yrwyr gwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd a chydraddoldeb.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ddiweddar, mae’r Cynulliad wedi ystyried materion yn ymwneud â thrafnidiaeth ar gyfer pobl ag anableddau, er enghraifft bu’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn casglu tystiolaeth fel rhan o’i waith ar Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig o ystyriaeth a roddwyd i ymgysylltiad awdurdodau lleol â phobl ag anawsterau dysgu wrth gynllunio newidiadau i'r rhwydwaith bysiau.

Wrth gwrs, cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt (P-05-710) -Adroddiad ar Ystyriaeth o’r Ddeiseb ym mis Hydref 2017.  Yn yr achos hwnnw, rhoddodd y bobl ifanc a gyflwynodd y ddeiseb dystiolaeth a oedd yn cyfeirio’n benodol at anghenion pobl ag anawsterau dysgu.

Og ran defnyddio cardiau rhatach ar wasanaethau rheilffyrdd, roedd llawer o ddiddordeb gan Aelodau yn ystod y broses o gaffael masnachfraint newydd TfWRail (a ddyfarnwyd yn ystod haf 2018) i weld a fyddai’r defnydd o gardiau rhatach yn parhau o dan y contract newydd. Er enghraifft, ym mis Mai 2018 cyflwynodd Janet Finch-Saunders AC gwestiwn ysgrifenedig ar ddyfodol y cynllun trenau rhatach ac ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd:

The concessionary rail fares scheme will continue on the same routes for the same periods until the end of the current franchise in October.   The specification for the future rail services contract from October 2018 includes the provision of the current scheme, as a minimum.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.